Yr ynys ag 20,000 o seintiau
Gorweddai ynys fechan Enlli, sy’n ychydig mwy na hanner milltir sgwâr, oddi ar flaen Penrhyn Llŷn. Mae’n lleoliad agored a chaiff hyn ei adlewyrchu yn yr enw Cymraeg, Ynys Enlli, sy’n golygu ‘yr ynys yn y cerhyntau’ a bu’r ynys yn hudolus dros y canrifoedd i’r rhai a oedd yn chwilio am oleuni ysbrydol drwy unigedd a ymroddiad crefyddol.
Roedd yr ynys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion canoloesol (dywedid bod tair pererindod i Enlli yn cynnig yr un iachawdwriaeth ag un bererindod i Rufain), ac yn wreiddiol bu’n lloches yn y bumed ganrif i rai a oedd yn dianc rhag erledigaeth. Yna, yn y flwyddyn 516, cyrhaeddodd Sant Cadfan, uchelwr Llydewig a sefydlu mynachdy. Yn llawer hwyrach adeiladwyd Abaty’r Santes Fair. Am ganrifoedd wedyn daeth yr ynys yn ‘le Sanctaidd ble câi’r dewraf a’r gorau yn y wlad eu claddu’ a adwaenid i’r beirdd fel ‘y ffordd i’r nefoedd a’r adwy i baradwys’.
Ychydig o’r hen abaty sydd dal ar ôl heddiw. Dim ond darn bychan o’r clochdy sy’n dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif a ddihangodd rhag difrod y Diwygiad a Diddymu’r Mynachlogydd Lleiaf a chafodd y gweddill ei ddymchwel yn 1537. Saif croes Geltaidd yng nghanol yr adfeilion i gofio’r 20,000 mil o seintiau yr honnir a gladdwyd yno.
Yn ogystal, mae myrdd o blanhigion ac anifeiliaid ar yr ynys. Mae ei lleoliad ar lwybr mudo sawl rhywogaeth o adar, ynghyd ag absenoldeb arferion amaethyddol modern, yn golydu ei bod yn gynefin o bwysigrwydd Ewropeaidd – ac un o’r llefydd gorau yng Nghymru i weld morloi llwyd, dolffiniaid a llamidyddion.
Mae cychod yn gadael o Borth Meudwy, Aberdaron. Parcio heibio fferm Cwrt ar y chwith.
Gorsaf agosaf yw Pwllheli - 16 milltir
Bws i Aberdaron neu Bwllheli
Ni chaniateir cwn. Cychod yn ddibynnol ar y tywydd. Rhaid codi defnyddwyr cadair olwyn i mewn i'r gwch - argymhellir trafod o flaen llaw.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 116210 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123