Tirwedd cyfareddol i arlunwyr
Mae Dyffryn Ogwen gyda’i ffermydd a’i fythynnod yn nythu wrth draed mynyddoedd eiconig uchel fel Tryfan, wedi bod yn ysbrydoliaeth i arlunwyr ers y 18fed ganrif. Mae traddodiad hir o arlunwyr tirlun yn paentio yma, o Thomas Jones a J M W Turner ac arlunwyr enwog oes Victoria i arlunwyr cyfoes fel Rob Piercy.
Ymysg y goreuon am ddal disgleirdeb awyr stormus y dyffryn oedd darluniau yr arlunydd John Piper (1903-92). Roedd yn arlunwr rhyfel adnabyddus am ei baentiadau o adeiladau wedi eu bomio, bu’n rhentu bwthyn yn y dyffryn yn niwedd yr 1940au. Yma fe ddaliodd gyffro a naws unigryw lliwiau’r ardal mewn paentiadau fel Jagged Rocks under Tryfan.
Mae Canolfan Ymwelwyr newydd rhagorol rhwng y teithiau cerdded clasurol o amgylch Llyn Idwal a Llyn Ogwen yn ganolfan dda ar gyfer crwydro.
A5 rhwng Bethesda a Capel Curig
Bangor - 8 milltir
Sherpa S6 Bangor - Capel Curig
Llwybr Beicio ar Rwydwaith Llwybrau Cenedlaethol 85: Lôn Las Ogwen
Parcio yng Nghanolfan y Warden
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH649603 (Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Eryri) Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115