Dysgwch Gymraeg ger y lli, yng nghysgod yr Eifl
Mae Nant Gwrtheyrn, ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, yn safle diarffordd a arferai fod yn bentref i chwarel ithfaen. Fe’i adwaenir ‘Y Nant’ gan bobl, ac mae bellach yn gartref i ganolfan breswyl llewyrchus yr iaith Gymraeg, mae’r nant wedi’i hamgáu gan y môr ger mynyddoedd yr Eifl.
Adeiladodd cwmni’r chwarel y tai yn hwyr yn saithdegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w gweithwyr a’u teuluoedd.
Adeiladwyd 14 o dai teras o amgylch sgwâr (o’r enw Cae Bach) yn cael eu gwasanaethu gan storfa’r cwmni. Roedd tŷ a swyddfeydd y rheolwr yn y pentref hefyd, ac mae’n rhaid bod pawb yn y pentref yn cyd-fyw’n agos iawn mewn lleoliad mor anghysbell. Dylech fedru ddod o hyd i olion y chwareli o amgylch y dirwedd hon – o felinau malu concred i olion y glanfeydd ar gyfer cludo’r cerrig ar y môr.
Gadawyd y gymuned pan gaeodd y chwarel, a bu hipis y New Atlantis Commune yn byw yno yn ystod y 1970au. Yn 1983 sefydlwyd modd i geir gael mynediad i’r pentref am y tro cyntaf, wrth sefydlu’r ganolfan iaith ac adfer yr adeiladau. Yn y ganolfan dreftadaeth cewch hanes bywyd y pentref ac mae’n arddangos tŷ chwarelwr fel y byddai yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Gallwch ganfod gwybodaeth am y bywyd gwyllt lleol a mynd am dro i’r traeth i chwilio am drysor.
Mae’r lleoliad hudolus hwn wedi ysbrydoli nifer o gysylltiadau hynafol, gan gynnwys cysylltiad â Vortigern, a oedd yn rheoli ym Mhrydain yn y bumed ganrif; fe’i adwaenir fel Gwrtheyrn (yr un enw). Y chwedl enwocaf yw stori am garwriaeth Rhys a Meinir a phan arweiniodd eu diwrnod priodas at drychineb.
Mynediad am Ddim