Bardd Cymraeg ei iaith a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a dyfarnwyd y Gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl ei farwolaeth.
Ganwyd Ellis Humphrey Evans ym Mhen Lan ynghanol pentref Trawsfynydd. Yn ddim ond pedwar mis oed symudodd ef a’i deulu i fferm y teulu, ychydig filltiroedd y tu allan i’r pentref, sy’n edrych dros Gwm Prysor. Ffermdy Yr Ysgwrn yw’r fan y byddwn yn ei gysylltu â chartref plentyndod Hedd Wyn.
Wedi iddo adael ysgol, gweithiodd Ellis ar y fferm gyda’i dad. Roedd wedi dangos diddordeb mewn barddoniaeth ers pan oedd o’n ddim o beth, gan gystadlu mewn eisteddfodau.
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf i newid yn ddramatig fywydau llawer o fechgyn ifanc o Gymru ac roedd Ellis yn un o’r 280,000 dynion o Gymru a ymunodd â’r Lluoedd Arfog yn y ‘Rhyfel Mawr’ 1914-1918. Yn gynnar yn 1917 ymunodd y bardd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin. O fewn y mis roedd wedi ei ladd ym Mrwydr Passchendaele.
Llwyfannwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw ym mis Medi’r flwyddyn honno. Cyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed mai awdur ‘Yr Arwr’ oedd enillydd y gadair, ond eglurodd na allai gymryd rhan yn y seremoni am ei fod wedi ei ladd mewn brwydr. Gorchuddiwyd y gadair wag â lliain du. O’r eiliad honno daeth Hedd Wyn yn symbol o bob Cymro a gollwyd yn ystod y gwrthdaro. Gadawodd y digwyddiad hwn ddylanwad dwfn ar hanes barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg.
Ysgrifennwyd ffilm o’r enw ‘Hedd Wyn’ gan y bardd Alan Llwyd a’i chyfarwyddo gan Paul Turner; cafodd ei rhyddhau yn 1992 a hon yw’r ffilm Gymraeg ei iaith gyntaf i gael ei henwebu am Wobr yr Academi.