Dyn sanctaidd o’r 7fed ganrif a gysylltir â Chlynnog Fawr
Efallai i Beuno gael ei eni yn Berriew, Sir Drefaldwyn, gogledd Powys, ble mae maen hir a gysylltir â’i enw. Addysgwyd ef a’i ordeinio yn y fynachlog ym Mangor Is-y-Coed yng ngogledd ddwyrain Cymru, ac yna credir iddo fod yn genhadwr gweithredol yng ngogledd Cymru yn ystod y 7fed ganrif.
Awgrymir fod y Brenin Cadfan o Wynedd yn noddi Beuno. Fodd bynnag, cafodd Beuno ffrae â mab Cadfan, Cadwallon, oherwydd dadl ynglŷn â thir. Yn ôl y stori, Gwyddaint, cefnder Cadwallon, roddodd y tir i Beuno yng Nghlynnog Fawr fel iawndal.
Mae chwedl yn cysylltu Beuno â'r Santes Gwenffrewi. Cafodd ei dienyddio gan ei chariad cenfigennus Caradog, a gafodd ei gythruddo gan ei chyhoeddiad ei bod am fod yn lleian. Dywedir fod Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon wedi ei leoli ble daeth ei phen i orffwys. Yn ôl y stori, credir i Beuno ddod â Gwenffrewi’n ôl yn fyw drwy gysylltu ei phen â’i chorff.
Bu farw Beuno yn 640.