Canfyddwch hanes Beuno a Gwenffrewi yn Nhreffynnon
Credir i Feuno Sant sefydlu eglwys ar y safle hwn yn y seithfed ganrif a’i chysegru i’w nith, Santes Gwenffrewi. Gwelir y cofnod cyntaf o’r eglwys, neu’r ‘Churche of Haliwell’ yn 1093, pan roddodd gwraig Hugh Lupus, Iarll Gaer, yr eglwys i fynachod St Werburgh’s yng Nghaer.
Mae’r rhan fwyaf o adeilad yr eglwys sydd yno heddiw yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, ond mae ei dwr (gyda ffenestri perpendicwlar) a rhan o gorff yr eglwys yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar ddeg neu’r bymthegfed ganrif. Yn 1769 cysegrwyd yr eglwys i Sant Iago’r Apostol ar ôl iddi gael ei hailadeiladu. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ystlysau newydd yn y gogledd a’r de, galerïau a choed yn y to. Cynhaliwyd gwaith adeiladu’n ddiweddarach pan ychwanegwyd cromfan yn 1884 a’r festri ogleddol yn 1905.
Mae’r cysylltiad gyda Santes Gwenffrewi i’w weld yn amlwg ym mynwent yr eglwys gan ei fod yn cael ei rhannu â’r capel sy’n dwyn ei henw. Bu’r lle hwn yn gyrchfan i bererinion am ganrifoedd, ac adeiladwyd y capel ar gyfer teithwyr a oedd wedi cyrraedd yno i gymryd dyfroedd yn ffynnon sanctaidd Santes Gwenffrewi. Dyweder bod Gwenffrewi wedi cael ei dienyddio ar y safle hwn gan Garadog, gŵr a oedd mewn cariad gyda hi, ond a gafodd ei wrthod ganddi. Tarddodd dŵr o’r ddaear yn yr union fan lle collodd Gwenffrewi ei phen, cyn i Feuno ddod â’i nith yn ôl yn fyw. Daeth Gwenffrewi yn lleian ac ymroddodd ei bywyd i Gristnogaeth. Mae’n werth ymweld â’r eglwys hardd, y ffynnon sanctaidd a’r capel yn yr ardal arbennig hon o Sir y Fflint.
Y Fflint - 4 milltir
Gwasanaeth bws rheolaidd
Beicio ar y lôn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SJ1853376276