Dywed traddodiad mai Deiniol oedd Esgob cyntaf Bangor yng Ngwynedd a sefydlydd y gymuned yno
Gellir olrhain gwreiddiau cadeirlan odidog Bangor i’r 6ed ganrif pan roddodd y Brenin Maelgwn Gwynedd dir i Deiniol i sefydlu cymuned Cristnogol a adwaenir fel clas. Amgylchynodd Deiniol y safle gyda ffens wiail bleth a alwyd yn ‘bangor’. Dyma sut y cafodd Bangor ei enw.
Mae’r rhannau hynaf o’r gadeirlan bresennol yn dyddio o tua 1130. Adeiladwyd ar yr un safle â chlas Deiniol ac mae’n parhau i ddwyn ei enw.
Daeth Deiniol yn Esgob cyntaf Bangor. Dywedir ei fod wedi mynychu’r Synod yn Llanddewi Brefi yn 545 gyda Dewi Sant yn gyfoeswr, ble y bu iddynt drafod rheolau penyd. Yn ôl Annales Cambriai dywedir fod Deiniol wedi ei gladdu yn dilyn ei farwolaeth ar Ynys Enlli tua 584.
Yn ogystal i’r gadeirlan odidog, mae etifeddiaeth Deiniol wedi ei adlewyrchu yng nghanol Bangor, lle mae ffordd a chanolfan siopa wedi eu henwi ar ei ôl.