Casgliadau unigryw sy’n dangos bywyd diwylliannol sir gyfan
Yn gartref i’r casgliad amgueddfa mwyaf yng ngogledd Cymru, sefydlwyd Amgueddfa ac Oriel Gwynedd pan sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884. Heddiw, mae’r casgliadau yn gyfuniad o gasgliad y brifysgol, casgliad Sir Gwynedd ac amgueddfa breifat capten môr o Oes Fictoria.
Mae’r casgliadau sylweddol yn cynnwys eitemau archeolegol, dodrefn, tecstilau, eitemau domestig ac amaethyddol, sy’n adrodd hanes cymdeithasol yr ardal o’r 17eg i’r 21ain ganrif, ynghyd â phrintiau, ffotograffau a chasgliadau celf. Mae’r casgliadau yn unigryw, yn darparu’r unig gofnod materol cyffredinol o fywyd cymdeithasol a diwylliannol gogledd-orllewin Cymru. Ceir yno fwyelli Neolithig, yrnau o Oes yr Efydd, cleddyf Rhufeinig, teiliau canol oesol, llechi wedi’u cerfio o Ddyffryn Ogwen, Bethesda, dreseli Cymreig a defnyddiau / ffabrigau Cymreig, ymysg llawer o eitemau eraill sy’n rhoi cipolwg i ni o dreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth.
Mae cynlluniau ar y gweill i symud y casgliad i Blas yr Esgob, un o adeiladau hynaf Bangor sy’n dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif.
Sadwrn: 10.30am-4.30pm
Mawrth i Gwener: 12.30-4.30pm
Mynediad am Ddim
Oddi ar yr A5 trwy Fangor
Bangor - 100 llath
Gorsaf bws tu allan
Ar lwybr NCN rhif 8
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 579720 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115