Eglwys hanesyddol mewn lleoliad prydferth, wedi’i llethu gan chwedl leol.
Mae Cristnogion wedi addoli wrth y fan lle mae’r Santes Fair bellach yn sefyll ers y 7fed ganrif. Mae’r eglwys i’w gweld wrth ymyl Beddgelert, yn agos at y fan lle mae’r Afonydd Glaslyn a Cholwyn yn cwrdd.
Erbyn y 13eg ganrif, cafodd y gymuned fach fynachaidd a oedd wedi sefydlu ei hun yma, ei had-drefnu a daeth yn Briordy Awstinaidd. Yn y 1230au, cafodd yr eglwys ei hailgodi i adlewyrchu’r statws newydd hwn, dan nawdd Llywelyn Fawr mae’n debyg. Byddai wedi bod o faint gweddol, gyda’r adeiladau eraill, sydd wedi’u hen ddinistrio, yn sefyll yn yr hyn sy’n gae llawn glaswellt i’r de o’r eglwys erbyn hyn.
Mae Eglwys y Santes Fair wedi’i llosgi ddwywaith, unwaith gan filwyr byddin Edward I ar ôl y goncwest o Wynedd ym 1283, ac unwaith eto yn y 15fed ganrif. Cafodd y gweddillion hanesyddol eu difrodi ymhellach gan ‘adnewyddiad’ Fictoraidd digydymdeimlad, ond mae olion o’r adeilad canoloesol i’w gweld o hyd. Cadwch lygad am y tair ffenestr lansed newydd uwchlaw’r allor a’r tri bwa llydan ar ochr ogleddol yr eglwys. Mae’r nodweddion hyn yn dyddio i’r 13eg ganrif.
Mwy na thebyg fod Beddgelert wedi cael ei enw oddi wrth sylfaenydd yr eglwys wreiddiol, sef Celert. Nid ydym yn gwybod llawer amdano. Fodd bynnag, mae yna darddiad mwy lliwgar a phoblogaidd. Dywedwyd mai Gelert oedd hoff gi hela Llywelyn Fawr. Un diwrnod, aeth y tywysog i hela, gan adael y ci i warchod ei fab bach. O ddychwelyd adref, gwelodd fod ei lys mewn anhrefn, roedd Gelert wedi’i orchuddio mewn gwaed, a’r babi ar goll. Yn ei ddicter, lladdodd y ci ac yna darganfyddodd ei fab yn syth wedi hynny, heb ei niweidio, wrth ochr blaidd enfawr wedi marw, ac roedd ei wddf wedi’i rwygo allan gan....Gelert. Yn ôl pob sôn, ni wenodd Llywelyn byth eto.
Mae’r stori’n un ddramatig, ysgytwol ac yn gelwydd llwyr – creadigaeth gwestywr lleol o’r 18fed ganrif ydoedd a’i lledodd er mwyn denu twristiaid i’r ardal. Mae ‘bedd’ yr arwr o gi chwedlonol i’w gweld ymhen taith gerdded fer a dymunol i dde Eglwys y Santes Fair.
Mwynhewch eiliad o lonyddwch fan hyn mewn amgylchedd prydferth.
Mynediad am Ddim
Mae Stryd yr Eglwys ar ymyl pentref bach Beddgelert, ar ochr ddeheuol y bont.
17 milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed.
Mae sawl bws yn stopio ym Meddgelert. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Eir at Stryd yr Eglwys o ganol pentref bach Beddgelert, i’r de o’r bont.
Eir at Stryd yr Eglwys o ganol pentref bach Beddgelert, i’r de o’r bont.
Hawdd.
Cyfeirnod Grid: SH59094804 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: - 4.101759, 53.011049 Taflen map OS explorer: OL17