Taith gerdded hir ar ben y byd drwy dirwedd Oes yr Efydd
Mae’r Carneddau yn grŵp o fynyddoedd yn Eryri sy’n llunio’r ardal barhaus fwyaf o dir uchel yng Nghymru a Lloegr. Mae ardal y Carneddau yn cynnwys dros fil o henebion hynafol.
Enwyd y Carneddau ar ôl casgliad o fwy na 20 carnedd, a chredir eu bod yn ddyddio’n ôl i Oes yr Efydd (2300-800 CC) ac mai beddrodau ydyn nhw. Mae llwybrau estynedig yn yr ardal ac mae llawer ohonynt ar gael i’w defnyddio i’r rhai sy’n dymuno ymweld â’r safleoedd hyn.
Ymysg y safleoedd amlycaf mae’r rhai a nodir isod. Ar hyd crib Carnedd Dafydd, ceir tair carnedd: Carnedd Fach, carnedd i’r de-orllewin o Garnedd Dafydd a Charnedd Dafydd ei hun. I’r gogledd, mae carnedd ar gopa Carnedd Llywelyn; mae dwy garnedd lai ar glegyr i’r gogledd ac mae un, a adwaenir fel Carnedd Trystan, i’r de-orllewin o’r copa. I’r gogledd-orllewin, ar gefnen Drosgl, cloddiwyd dwy garnedd ym mis Gorffennaf 1976 ac ohonynt, llwyddwyd i gloddio amlosgiad cyfan. Ar gefnen i’r gogledd o gopa Drum mae carnedd ac yma yn ôl y sôn daeth lladron beddau o’r 18fed ganrif o hyd i wrthrych aur.
Mae crug o Oes yr Efydd wedi’i lleoli 300 medr i’r de o Drum bron â diflannu’n llwyr heddiw, ond cafodd ei chloddio yn gynnar yn yr 20fed ganrif gan W. O. Roberts. Canfuwyd bicer Oes yr Efydd yno a gellir gweld yr eitem honno heddiw yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.
A5 i Fethesda, yna isffyrdd i orllewin y pentref
Bangor - 8 milltir
Gorsaf bws Bethesda
Llwybr beic Lôn Ogwen yn ymyl ym Methesda
Cerdded o gyfeiriad Gerlan
Llwybrau mynydd uchel. Esgidiau cerdded, dillad addas a map yn angenrheidiol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Drosgl summit: SH 663680, Drosgl North: SH 654688 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115