‘Rhy dda i ddyn meidrol’
Os oes un adeilad yng Nghymru sy’n ymgorffori gobeithion a dyheadau cenedlaethau o chwarelwyr, hwnnw yw'r Coleg ar y Bryn fel y’i gelwir yn lleol.
Fe’i sefydlwyd yn 1884 fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Fel rhan o’i ddathliadau agoriadol gorymdeithiodd 3000 o chwarelwyr (y rhan fwyaf ohonynt o chwarel y Penrhyn a chwarel Dinorwig), i ddathlu’r achlysur drwy’r ddinas i adeilad y coleg a oedd yr adeg honno yn hen dafarn i’r goets fawr gyda 58 o fyfyrwyr a 10 aelod o staff. Roedd y chwarelwyr wedi casglu dros £1200 i’r brifysgol.
Yn 1911, symudodd y brifysgol i’w lleoliad presennol ym mhrif adeilad y celfyddydau. Fe’i dyluniwyd gan y pensaer Henry Hare ac fe’i hagorwyd gan Siôr V. Ystyrir bod yr adeilad gydag arddull ‘Tuduraidd Golegol’ gyda dylanwadau Celf a Chrefft. Disgrifiodd Hare yr adeilad fel un ‘â nodweddion cyffredinol o gyfnod hwyr y Dadeni’ ac ystyriwyd mai dyma ei waith gorau – dywedodd un sylwebydd ei fod ‘yn rhy dda i ddyn meidrol’. Mae’r ffenestri lliw ar dalcen de-ddwyrain yr adeilad gan Dudley Forsyth, Llundain. Ar y llawr daear mae ffenestr o arddull Fenis gyda ffenestr lai wrth ei hochr. Ar y ffenestr fechan hon mae’r geiriau ‘Architectus Dedit’ wrth ymyl monogram o ysgyfarnog, llofnod a nod gwneuthurwr y pensaer ei hun.
Mae gofod celf a dyfeisgarwch newydd (Prosiect Pontio) am agor yn 2015 a bydd hwn yn cysylltu adeilad y brifysgol â Bwa Coffa Bangor. Bydd y ganolfan yn cynnwys theatr, sinema, bwyty, bariau, a gofod i undeb y myfyrwyr a mannau addysgu a dysgu.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Oddi ar yr A5 (Ffordd y Coleg) trwy Fangor
Gorsaf Bangor - 100 llath
Gorsaf bws gyferbyn â'r Brifysgol
Ar lwybr beicio NCN rhif 8
Ymweliadau i'w trefnu trwy swyddfa'r Cofrestrydd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 579723 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115