Hanes Gwenffrewi a’i ffynnon sanctaidd
Wedi’i chysegru i’r Santes Gwenffrewi ac wedi’i lleoli ym mhentref tlws Gwytherin, Conwy, fe ailadeiladwyd yr eglwys hon yn llwyr ym 1867. Credir bod codiad tir bychan yn y cae gerllaw, a adwaenir fel Cae Bryn Capel, yn safle capel llawer hŷn a gysegrwyd i’r santes ac â ddymchwelwyd oddeutu troad y 18fed ganrif. Credir ei bod yn bosib bod y capel hwn yn coffau safle’r fynachlog gynharach a fodolai yma.
Yn ôl y chwedl, roedd Gwenffrewi yn ferch i Tevyth, pennaeth Tegeingl. Pan benderfynodd nad oedd am briodi ei dyweddi, Caradog, a’i bod am ddod yn lleian, fe wylltiodd Caradog gymaint nes y torrodd ben Gwenffrewi i ffwrdd. Dywedir bod ffrwd iachau wedi arddangos yn y man ble syrthiodd ei phen, ac fe adwaenir y man hwnnw fel Treffynnon hyd heddiw. Yn ôl y sôn, dywedir bod Beuno Sant, ewythr Gwenffrewi wedi llwyddo i osod ei phen yn ôl ar ei chorff a dod â hi yn ôl yn fyw. Hefyd, gofynnodd am i gosbedigaeth y nefoedd daro Caradog ac fe syrthiodd Caradog yn farw yn y fan a’r lle. Yn ddiweddarach, daeth Gwenffrewi yn abades y fynachlog yng Ngwytherin.
Saif tair coeden ywen hynafol yn y fynwent, ynghyd â rhes o bedwar maen hir; ni wyddys i ba oes y maent yn dyddio’n ôl, ond mae’n amlwg eu bod yn hen iawn. Ar un o’r cerrig, ceir yr arysgrif Lladin VINNEMAGLI FILI SENEMAGLI, a gredir iddo gyfieithu yn ‘Vinnemaglus fab Senemaglus’. Er na wyddwn pwy oedd y bobl hyn, credir eu bod yn dyddio yn ôl i’r 5ed neu’r 6ed ganrif.
Mae Gwytherin yn un o’r lleoliadau yn y nofel A Morbid Taste for Bones gan Ellis Peters – y gyntaf o nofelau’r Brawd Cadfael. Yn ogystal, mae’r pentref yn rhan o Lwybr Pererinion Gogledd Cymru.
Ar agor drwy'r adeg
Mynediad am Ddim
Yng nghanol pentref ar y B554 sy'n cysylltu Llanwrst a Llansannan
Llanwrst - 8 milltir, Abergele - 13 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Llansannan neu Llangernyw
Dim llwybr beicio swyddogol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 877615 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 116