Cartref y peth byw hynaf ym Mhrydain
Ni wyddys fawr am fywyd Sant Digain. Yn ôl y sôn roedd yn dywysog Cernywaidd a aned yn 429 ac roedd yn fab i Cystennin Gorneu, Brenin Dumnonia. Mae ‘Gorneu’ yn amrywiad o ‘Cernyw’ neu ‘Kernow’ mewn Cernyweg ac ystyr yr enw Llangernyw yw ‘eglwys y gŵr o Gernyw’. Credir bod yr anheddiad Cristnogol gwreiddiol yn dyddio yn ôl i’r oes hon.
Saif dau faen, wedi’u harysgrifio â chroesau, yn y fynwent a chredir eu bod yn dyddio yn ôl i’r 7fed-9fed ganrif. Yn ogystal, saif coeden ywen yn y fynwent a chredir ei bod rhwng 4000 a 5000 o flynyddoedd oed – bron yn sicr, dyma’r peth byw hynaf ym Mhrydain.
Mae’r adeilad presennol yn eglwys hynafol sydd wedi’i hailwampio’n sylweddol. Credir bod y rhan hynaf ohoni, corff yr eglwys, yn dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif ac mae bedyddfaen y tu mewn i’r eglwys a chredir ei bod yn dyddio yn ôl i’r 14eg neu’r 15fed ganrif. Mae’r eglwys yn anarferol o ran ei bod wedi’i hadeiladu ar ffurf croes – rhywbeth prin yn y rhan hon o Gymru.
Credir hefyd mai’r eglwys yw trigfan yr Angelystor, yr Angel Cofnodi Marwolaeth. Dyweder bod yr Angel yn ymddangos ddwywaith y flwyddyn a’i fod yn darllen ar goedd enwau’r bobl yn y plwyf fydd yn marw yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Mynediad am Ddim
Lle mae'r A548 yn cyfarfod gyda'r B5382
Llanwrst - 8 milltir, Abergele - 13 milltir
Safle bws tu allan i Swyddfa'r Post
Yng nghanol y pentref ar y cyffordd
Eglwys ar agor. Meini Cristnogol cynnar i'w gweld yn ne'r Fynwent
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 875674 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 116