Eglwys hynafol gyda Drws y Diafol.
Ceir cofnod o eglwys yng Ngwaenysgor mor gynnar â’r unfed ganrif ar ddeg yn Llyfr Dydd y Farn. Mae’n bosib bod gan y man addoli hwn sylfaen Sacsonaidd ac mae’n sicr yn ôl-ddyddio’r goresgyniad Normanaidd. Ryw dro yn dilyn hyn, mae’n bur debyg bod yr eglwys wedi cael ei hailadeiladu oherwydd fe’i prisiwyd fel ugain swllt ym 1254 yn ystod teyrnasiad Harri’r III.
Adeilad gyda siambr unigol yw eglwys bresennol y Santes Fair Fagdalen ag iddi wreiddiau canoloesol a waliau calchfaen cadarn. Gellir darganfod nifer o nodweddion hanesyddol tu mewn i’r eglwys. Mae’r fedyddfaen yn dyddio nôl i’r drydedd ganrif ar ddeg a dywedir mai replica ydyw o’r un yng Nghadeirlan Lincoln. Ym 1931, drwy waith adfer gan y pensaer Harold Hughes, tynnwyd ychwanegiad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o’r to. Roedd hwnnw wedi bod yn cuddio’r gwaith coed trawiadol o’r bymthegfed ganrif. Yn ystod gwaith adfer 1931, dadorchuddiwyd drws o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, bron iawn gyferbyn â mynedfa’r eglwys. Fe’i gelwir yn ‘Drws y Diafol’ a chaiff ei flocio gan ffenestr, ond dylech allu gweld y colfachau sydd ar ôl.
Efallai bod mynwent yr eglwys yn wreiddiol wedi bod yn fynwent yn ystod y cyfnod Rhufeinig (o’r ganrif gyntaf hyd at y bedwaredd ganrif OC). Cefnogir y theori hon gan ei siâp cylchol a phan ddarganfuwyd ffiguryn bychan o geffyl efydd yn dyddio nôl i’r cyfnod Rhufeinig. Petaech yn mynd am dro o gwmpas y fynwent, efallai byddwch yn gallu gweld colofn deial haul o’r ail ganrif ar bymtheg ynghyd â sawl bedd o’r un cyfnod.
Gwasanaeth Dydd Sul am 10.00 y bore
Yn nghanol y pentref
Prestatyn - 1.5 milltir
Gwasanaeth bws rheolaidd
Cedwir goriad gan Tom ac Anne Roberts, rhif ffôn 01745 851405
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SJ07518102