Dewch i weld Eglwys a ffynnon sanctaidd Dyfnog ym mhentref hyfryd Llanrhaeadr.
Mae stori Sant Dyfnog yn stori anhygoel mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Roedd yn byw yma yn y chweched ganrif, yn cyflawni’i benyd am ei bechodau drwy sefyll o dan raeadr mewn crys rhawn a chadwyni haearn. Rhoddodd y weithred hon rym iachau i’r dŵr, ac ymhen amser roedd y dŵr yn rhedeg i ffynnon sanctaidd a byddai pererinion yr Oesoedd Canol yn ymweld â hi i gael iachâd o gyflyrau megis y frech wen. Codwyd cyfleusterau ymdrochi ar y ffynnon yn y ddeunawfed ganrif i wasanaethu’r ymwelwyr a oedd yn awyddus i ymdrochi yn y dyfroedd.
Mae’r eglwys ei hun yn adeilad dau gorff canoloesol, ag iddi borth o goed. Mae ynddi waith celf eithriadol, ffenestr wydr lliw ‘Coeden Jesse’, sy’n olrhain llinach Iesu Grist o Jesse, tad y Brenin Dafydd. Mae’n bosib mai offrymau gan bererinion a dalodd am hyn ond mae arysgrif sy’n cofnodi mai rhodd oedd hi gan offeiriad o’r enw Robert Jones. Yn ystod y Rhyfel Cartref, cafodd ei chuddio mewn cist fawr er mwyn ei harbed rhag niwed.
Mae corff gogleddol yr eglwys wedi cael ei addurno ag angylion a tho trawstiau gordd gwych iawn. Peidiwch ag anghofio am y pelican euraid sydd wedi’i leoli ger ffenestr Jesse, a gopïwyd yn 1762 o’r aderyn mytholegol sydd wedi’i baentio yn y ffenestr ei hun. Mae’r aderyn yn bwydo’i gywion ifanc gyda’i waed ei hun, sy’n symbol o aberth Crist dros ei bobl.
Ar agor pob dydd a gellir trefnu teithiau
Wedi ei lleoli oddi ar yr A525 Rhwng Dinbych a Rhuthun
Rhyl - 14 milltir
Gwasanaeth bws rheolaidd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SJ0816763374