Ffau’r Arth
Yn esgyn 365 troedfedd (150 metr) uwchlaw tref Bae Colwyn ac mewn safle amlwg uwchlaw arglwyddiaeth hynafol Rhos, credir bod Bryn Euryn wedi bod yn safle i anheddiad gaerog ers Oes yr Haearn. Mae gwaith cloddio wedi datguddio fod y cadarnle hwn yn un o nifer a gafodd eu ailsefydlu yn gadarnleoedd yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig, yn ystod oes chwedlonol Arthur.
Roedd gan y fryngaer wreiddiol glogwyni serth naturiol i’r de ac i’r dwyrain a chlawdd rhagfur wedi’i godi o amgylch yr ochrau i’r gogledd a’r gorllewin. Adeiladwyd caer lai oddi mewn i’r amddiffynfeydd gwreiddiol yn ystod y bumed ganrif. Gyda muriau arswydus oedd o leiaf 10 troedfedd (3 metr) o uchder, wedi’u hwynebu â charreg galch o amgylch rhagfur llawn rwbel a oedd â thrwch o 12 troedfedd(3.5 metr), mae’r nodweddion hyn oll yn awgrymu iddo fod yn gadernle i ffigwr pwysig yn hanes cynnar Cymru. Erbyn hyn, credir mai’r fan hon oedd cartref Cuneglasus, neu Cynlas Goch fel y’i hadwaenid, Brenin Rhos, y caiff ei gyfeirio ato fel ‘yr arth’ yng ngweithiau Gildas o’r chweched ganrif. Gorwedda Bryn Euryn yn nhrefgordd ganoloesol Dineirth, sef Din Eirth, Caer yr Arth.
Credir bod Bryn Euryn yn safle i gastell Ednyfed Fychan yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg, sef prif gynghorwr y tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Fodd bynnag, nid yw’r castell wedi’i adnabod yn swyddogol. Mae adfail plasty canoloesol ar y bryn, a phlasty Robin Ap Gruffydd Goch oedd hwn, yn dyddio o ganol y bymthegfed ganrif.
Heddiw, mae Bryn Euryn yn Heneb Restredig dan ofal Cadw.
Wedi ei arwyddo o Landrillo yn Rhos o'r eglwys. Dilynwch arwyddion i'r maes parcio
Bae Colwyn - 2 filltir
Ffordd Llandudno, Llandrillo yn Rhos
Taith 20 munud ar hyd llwybr troed
Llwybr troed yn arwain i'r gopa o'r maes parcio. Gall y llwybr fod yn fwdlyd.
Rhif cyfeirnod Grid Llawn: SH 832798 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 116