Perl Rhestredig Gradd I ym mhentref tawel Chwitffordd
Credir i Eglwys Chwitffordd, sydd uwchlaw llecyn hyfryd ar aber afon Dyfrdwy gael ei sefydlu gan Feuno Sant yn y seithfed ganrif. Ceir y sôn cyntaf amdani fel ‘Widford’ yn Llyfr Domesday yn 1086. Fe’i hadwaenir bellach fel Eglwys y Santes Fair a Beuno Sant, ac mae’n adeilad rhestredig Gradd I.
Offeiriad oedd Beuno a sefydlodd sawl eglwys a chymuned grefyddol (o’r enw clasau) yng Nghymru’r seithfed ganrif. Nid oes unrhyw adeilad wedi goroesi ers y cyfnod hwn ond credir bod yr ystlys ogleddol yn perthyn i’r Canol Oesoedd, ac yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar ddeg neu’r bymthegfed ganrif. Gellir dyddio’r rhan fwyaf o’r eglwys steil berbendiciwlar hon i waith adeiladu o oes Fictoria. Y Pensaer Ambrose Poynter wnaeth gwblhau’r gwaith atgyweirio, gan gynnwys ailadeiladu twr y gorllewin, yn yr 1840au. Talwyd am y gwaith gan yr Arglwydd Edward Mostyn a’r Arglwyddes Emma Pennant, a chaiff eu cyfraniad ei gydnabod ar lechen ar wal ogleddol yr eglwys.
Mae posib gweld manylion canoloesol a manylion o gyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o amgylch yr eglwys o hyd. Mae arch garreg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a gweddillion beddrod o’r un cyfnod i’w gweld y tu fewn i’r eglwys, yn ogystal â bedyddfaen o 1649. Canfuwyd 14 o feddi yn 1993 yn dilyn gwaith cloddio archeolegol ar hyd waliau gorllewinol a gogleddol yr ystlys ogleddol. Ceisiwch ddod o hyd i groes garreg gynnar wrth i chi fynd am dro o amgylch mynwent yr eglwys.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SJ1461878183