Mae cymryd cipolwg sydyn ar gestyll canoloesol a waliau tref Brenin Edward I yng Ngwynedd a Chonwy yn ddigon i argyhoeddi unrhyw un eu bod yn llawn haeddu eu statws Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r amddiffynfeydd trawiadol hyn yn dystiolaeth o uchelgais Edward I i ymestyn ei deyrnas a chyfnerthu ei rym yng Nghymru wedi iddo drechu Tywysogion Gwynedd ar ddiwedd y 13eg ganrif. Bu James St George, peiriannwr milwrol a phensaer anhygoel, yn gweithio i Edward ar y strwythurau hyn. Dyluniwyd y cestyll i gadw pobl allan ohonynt, ac yn achos trefi caerog Caernarfon a Chonwy, galluogi i swyddogion Lloegr redeg pethau o du mewn i’r gaer. Fe ymosodwyd ar y cestyll hyn gan dywysogion Cymru Madog ap Llywelyn ar ddiwedd yr 13eg ganrif ac Owain Glyndwr yn fuan yn y 15fed ganrif, fel protest yn erbyn rheolaeth o Loegr. Hyd yn oed os mai dim ond ymweld ag un o’r pedwar castell yng Nghaernarfon, Conwy, Harlech a Beaumaris wnewch chi, bydd yn ddigon i wneud i chi synnu ar faint y ceiri dinesig grymus hyn a rhyfeddu ar uchelgais Edward I.
Map