Archwilio

Gwreiddiau a Chyn Hanes

Mwynglawdd Hynafol y Gogarth / Great Orme Mines - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage
Bryn Cader Faner - Hawlfraint / Copyright Mick Sharp
Meini Hirion - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage

Mae gorffennol cynhanesyddol syfrdanol yn disgwyl y rhai sy’n awyddus i ddarganfod yr henebion sy'n britho cefn gwlad gogledd Cymru. Mae'r dystiolaeth yn y dirwedd yn adrodd stori gyfoethog o gymunedau cynnar a’u seremonïau ysbrydoledig, eu bywyd amaethyddol a thechnolegol a’u cysylltiadau ehangach gyda chynhanes Ewropeaidd.

Mae Archeolegwyr wedi canfod olion bywyd ar draws miloedd o flynyddoedd – mae claddedigaethau dynol a thamaid o asgwrn gên ceffyl wedi ei addurno wedi eu darganfod yn Ogof Kendrick ar Pen y Gogarth, Llandudno, sy'n dyddio'n ôl i 10,000 CC (y cyfnod Paleolithig hwyr). Oddeutu 5000 o flynyddoedd yn ôl roedd beddrodau mawr o gerrig, tebyg i’r rhai yn Dyffryn Ardudwy yn cael eu llunio. Yn aml mewn lleoliadau arfordirol fe ddaethant yn ganolbwynt bywyd cymunedol yn ystod y cyfnod.

Roedd pen bryniau a bylchau dramatig y mynyddoedd yn leoliadau ar gyfer y cylchoedd cerrig a chladdedigaethau oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl, eto yn dangos pwysigrwydd y dirwedd i’r bobl hyn. Lli na 3000 o flynyddoedd yn ôl dechreuwyd adeiladu mwy a mwy o fryngaerau, rhai a ddaeth yn ddiweddarach yn lleoliadau caerau a chestyll canoloesol.

Gellir archwilio myrdd o nodweddion archeolegol o gylchoedd meini hir a beddrodau, i fryngaerau a chwareli, ar droed. Gwisgwch eich esgidiau cerdded, paciwch frechdan neu ddwy a dewch ar siwrne yn ôl i’r byd hynafol.

Gwreiddiau a Chyn Hanes ar y Map

Map

Dilyn y Stori