Archwilio

Rhufeiniaid

Tomen y Mur - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage
Hen Waliau - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage
Pen y Gwryd - Hawlfraint Ein Treftadaeth / Copyright Our Heritage

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid yn ne Prydain yn 43 OC ond cymerodd sawl degawd o ymladd yn erbyn y llwythau Celtaidd cyn iddynt oresgyn y gwrthsafiad lleol cadarn. Roedd y newydd-ddyfodwyr yn graff yn ogystal – gan sefydlu brenhiniaeth cleient, lle roedd rhai llwythau yn rheoli tir i’r Rhufeiniaid. Llwyddodd milwyr y Llywodraethwr Agricola i gymryd rheolaeth o Ynys Môn erbyn 77 OC ac fe sefydlasant ganolfannau i gadarnhau grym y Rhufeiniaid yng Nghymru. Roedd gan y ceiri hyn a leolwyd mewn lleoliadau strategol, rhai ar dir uchel a rhai wrth afonydd neu ar yr arfordir, rôl hanfodol i’w chwarae mewn rhwydweithiau masnach a chyfathrebu ac roedd pob canolfan Rufeinig wedi’i chysylltu â lonydd a adeiladwyd o’r newydd. Adeiladwyd y ceiri hyn gan ddilyn strwythur unffurf i sicrhau bod y grym milwrol Rhufeinig yn rhedeg yn ddidrafferth. Roedd llai o filwyr wedi eu lleoli yng Nghymru erbyn 120 OC oherwydd bod eu hangen i amddiffyn y terfyn gyda gogledd Lloegr. Bu i’r Rhufeiniaid ymgymryd â gwaith diwydiannol i wasanaethu eu anghenion adeiladu hefyd – daethpwyd o hyd i dystiolaeth o’u odyn teils ac roeddynt yn mwyngloddio copr ac yn defnyddio llechen. Gyda’r Ymerodraeth Rufeinig yn cilio ar ddiwedd y 4ydd ganrif, roedd y byddinoedd yn tynnu’n ôl o Gymru a’r gogledd. Daeth rheolaeth Rufeinig i ben ym Mhrydain erbyn 410 OC, ond mae eu holion dal i’w gweld yn ein trefi a chefn gwlad. Darganfyddwch fwy drwy ymweld ag olion y ceiri hyn ar droed yn Segontium (Caernarfon), Canovium (Caerhun) a Thomen y Mur (Trawsfynydd).

Rhufeiniaid ar y Map

Map